Sunday, June 29, 2008

cwrs y rhosyn gwyllt

Mi ges i amserlen Cwrs Cymraeg Madog neithiwr. Cyffroes! Mi fydd hi'n wythnos lawn iawn. Mi neith y dosbarth cynta ddechrau am 8:30, a neith yr un ola orffen am 3:30. Mi fydd 'na weithdai amrywiol, dawns werin, canu, cwis, ffilm Cymraeg, Eisteddfod fach hyd yn oed.

Mae 'na tua deg ohonon ni yn fy nosbarth i (lefel 6.)  Mark Stonelake o Abertawe ydy'r tiwtor. Ella bod Peggi'n ei nabod o. Mi fydd yn bosib cael symud i lefel arall ar ôl dechrau.

Maen nhw'n darparu'r holl brydau o fwyd. Gobeithio byddan nhw cystal â'r rhai yn ffreutur Prifysgol Bangor. (Rôn i'n gwirioni ar yr iogwrt o Gymru.)

Dim ond tair wythnos i heddiw na i fynd.

Naci, pythefnos! Bobl bach!

4 comments:

asuka said...

fel y dywedaist ti, cyffrous iawn!
rwy 'di dysgu drwy ddarllen eu gwefan y gall cynnwys dosbarth 6 ddibynnu ar "the needs and skills of the particular group of students..." oes 'na bethau penodol y byddi di'n gobeithio edrych arnynt? wyt ti'n gwneud rhestr o'r gwestiynau i gyd sy gen ti?
(dyna a wnes i cyn mynd i gymru i wneud 'nghwrs haf yng nghaerdydd yn 2007!)

Emma Reese said...

Mae gen i restr o gwestiynau i ofyn i'r tiwtor! Mi fydd 'na amser i wneud hynny ar ôl swper bob dydd.

Dw i ddim yn edrych ar ddim penodol yn y cwrs ond y cyfle i siarad Cymraeg ac i fod mewn dosbarth Cymraeg go iawn. Dw i isio dawns hefyd. ^^

Zoe said...

Dw i'n gobeithio dy fod ti'n mwynhau'r cwrs, Emma! Mae'n ymddangos a fydd hi'n llawer o hwyl!

Emma Reese said...

Diolch i ti, Zoe. Dw i'n siwr mod i. Dim ond gobeithio na fydd llifogydd yno dw i.