Tuesday, June 17, 2008

cyfieithiad a pheiriant golchi

Mae fy ngwr yn mynd i roi darlith ar optometreg mewn pythfnos yn Japan ac yn Japaneg hefyd. Mi naeth rhywun waith cyfieithu'n barod ond mae fy ngwr wedi gofyn i mi gywiro gwallau. Ac mae 'na lawer iawn ohonyn nhw! Mae 'na gant o dudalennau i gyd, ac dw i wedi gorffen 57 ohonyn nhw bellach. Dim ond 43 sydd ar ôl... Ac dw i ddim yn gyfarwydd â'r eirfa feddygol o gwbl.

Yna mae'n peiriant golchi ail-law wedi torri i lawr y bore ma. Mi nes i brynu un newydd yn Lowe's yn y p'nawn ond neith o ddim gyrraedd tan nos Iau. Ac mae 'na saith ohonon ni yn y teulu. Mi fydd rhaid i mi fynd â'r dillad i olchdy yfory. Ac mi nawn i fynd i'r briodas ddydd Gwener.

2 comments:

asuka said...

mae'r gwaith gwirio'n swnio fel gwaith caled! rwy'n darllen dros draethawd ph.d. 'mriod ar hyn o bryd, yn gwneud yr un peth yn fwy neu lai (proofreading yn y bôn), a sa' innau'n deall y cynhwysiadau i gyd 'chwaith!

Erika said...

Mae fy ymennydd wedi troi'n jeli bellach.