Friday, June 13, 2008

hwre i fy het!

Rôn i'n sefyll mewn ciw hir wrth ddesg wasanaeth gwsmeriaid yn Wal-Mart bore ma. Yna mi glywes i'n sydyn, "Did you go to Wales?" oddi wrth y dyn tu ôl i mi. Mi naeth o ofyn oherwydd y Ddraig Goch ar fy het. Mi ddwedodd o fod o wedi ymweld â Chymru deg mlynedd yn ôl. Mi aeth o i'r Alban hefyd ond Cymru oedd ei ffefryn. Mi ddechreues i ddweud mod i wedi bod ym Mangor, ond mi aeth fy nhro i fynd at y ddesg ac roedd rhaid i mi ddweud hwyl iddo fo.

Dyma'r tro cynta i mi gyfarfod yn y dre ma efo rhywun sy'n nabod Cymru. Mi naeth fy het y tric. Mi na i ddal i'w gwisgo hi!

4 comments:

asuka said...

da iawn - nid y ti a dy deulu mo'r unig bobol yn oklahoma sydd â diddordeb yng nghymru wedi'r cyfan!
byddi di'n gwisgo'r het 'na bob tro yr ei di mas o'r tŷ o hyn 'mlaen?

Emma Reese said...

Roedd y profiad yn syndod pleserus mawr! Drueni mod i ddim yn cael siarad â fo mwy.

A dweud y gwir, dw i'n ei gwisgo hi bron bob tro pan na i fynd allan yn gobeithio neith peth fel hyn ddigwydd. ^^

Linda said...

Stori ddifyr am yr het emma !
Mae'n rhyfedd gymaint o sylw mae'r ddraig goch yn ei gael:)

Emma Reese said...

Ydy wir. Ac fel naeth Asuka ddweud bod ni ddim yr unig bobl yn Oklahoma sy'n nabod Cymru, wedi'r cwbl.