Sunday, June 8, 2008

penwythnos



Mi ddaeth fy merch hyna adre dros y Sul am y tro ola yn ferch sengl. Roedd 'na bethau roedd rhaid iddi hi drefnu dros y briodas. Ac mi ofynodd hi i mi wneud un peth arall, sef gardys i'r priodfab ei daflu at y dynion ifanc yn y seremoni. Mi wnes i ddefnyddio'r un ffabrig wnes i'r crafatiau a'r sash efo fo.

Roedd gynni hi fwriad pwysig arall, sef mynd â'r ddau fochyn cwta i gartre newydd. Mae ei bos hi a'i deulu isio'r moch cwta ac maen nhw wedi bod yn aros am wythnosau. Mae'r babis yn ddigon hen i adael eu mam bellach.

Roedd 'na ffarwel tipyn trist ymysg y plant er bod nhw'n gwybod bydd y moch cwta'n mynd i gartre da.

7 comments:

Digitalgran said...

Cefais bleser mawr o ddarllen dy flog. Mae dy Gymraeg yn arbennig o dda os mai dysgwr wyt ti?
Pob hwyl yn y briodas. Mi fydda i'n galw eto i ddarllen yr hanes.

Digitalgran said...

Anghofiais ddweud fod gen i flog Gymraeg er nad wyf yn postio llawer arno y dyddiau yma. http://cymraesgreadigol.blogspot.com

Emma Reese said...

Diolch am alw, Margaretr a chroeso cynnes i ti.

Dw i newydd ddarllen dy flog di. Mae o'n ddiddorol iawn. Gobeithio nei di sgwennu mwy.

Rwyt ti'n byw mewn lle hyfryd! Bues i yng Nghymru'r haf diwetha am bythefnos. Ches i ddim cyfle i ymweld â Chonwy, ond rôn i'n dysgu Cymraeg yn yr ysgol haf yn Safle Normal!

asuka said...
This comment has been removed by the author.
asuka said...
This comment has been removed by the author.
asuka said...

nid jest y totoro sy 'di tyfu, rwy'n gweld - mae'r ddau fochyn cwta'n edrych yn enfawr.
rwy rîli rîli'n edrych 'mlaen at weld lluniau o'r briodas - mwy nag un plîs! a phob lwc gyda'r paratoadau terfynol!

Emma Reese said...

Diolch i ti Asuka. Dw i'n bwriadu rhoi mwy nag un llun yn bendant. Mi fydd rhaid i mi geisio PEIDIO rhoi gormod, a dweud y gwir. ^^