Friday, June 27, 2008

skype

Mae Skype'n ddefnyddiol iawn fel mae llawer ohonoch chi'n gwybod. Dw i'n cael siarad Cymraeg â fy ffrindiau ar Skype bob wythnos. Fasai gen i ddim unryw gyfle i gael sgwrs Cymraeg o gwbl onibai amdano fo achos bod 'na neb yn siarad yr iaith lle dw i'n byw.

Y bore ma mi ges i brofiad pleserus yn siarad Cymraeg â dysgwr o Loegr. Un o'r blogwyr, Jonathan o Gymro'r Canolbarth ydy o.

Mae 'na lawer o ddysgwyr sy ddim yn cael digon o gyfleoedd i siarad Cymraeg, dw i'n siwr. Mi fydd hi'n syniad gwych i drefnu rhywbeth gan gymryd mantais ar y teclyn cyfoes ma.

6 comments:

asuka said...

am ddefnydd gwych ar skype!

asuka said...

ac mae'r blog 'na mor newydd ei greu! ffordd y clywaist ti amdano fe?

Emma Reese said...

Mae o ar restr Blodiadur.

asuka said...

ŵps - collais i fe rywsut. diolch!

Peggi Rodgers said...

Mae Skype yn neis iawn, iawn Emma. Dwi'n siarad gyda phobol yn Gymru (Jonathan hefyd!) ac pan roeddwn yn Galiffornia, byddwn i'n siarad gyda ffrindiau yn Gymru. Mae e'n agor y fyd inni, do fe? Dylen ni siarad un o'r diwrnod 'ma. :O)

Emma Reese said...

Cytuno'n llwyr, Peggi. Yr unig broblem ydy mae o'n cael effeithiau gan dywydd drwg.