Friday, August 1, 2008

ofn siarad

Mae fy merch arall yn Mecsico ers pythefnos yn dysgu Sbaeneg. Mae'r teulu mae hi'n aros efo nhw'n hyfryd, ac mae'r cwrs Sbaeneg a'r tiwtor'n wych. Mae gynni hi lawer o gyfleoedd i glywed Sbaeneg cael ei siarad. 

Ond, dydy hi ddim yn cael siarad Sbaeneg cymaint ag mae hi isio. Mae gan y ferch sy'n mynd efo hi ormod o ofn siarad Spaeneg efo'r bobl leol. Mae hi'n tueddi i siarad Saesneg felly. Ac dydy fy merch ddim isio mynnu siarad Sbaeneg o'i blaen hi....

'Na drueni ar ôl talu cymaint am y daith, ond mae'n swnio'n gyfarwydd. Mi ddigwyddith hynny mewn unrhyw gwrs ieithyddol tybiwn i. Sut cawn ni drechu'r broblem na?

9 comments:

Zoe said...
This comment has been removed by the author.
Zoe said...

Aw, dyma rhywbeth anodd. ): Dw i wedi cyfarfod hyn pan o'n i'n dysgu Sbaeneg yn Puerto Rico. Mi es i yno i siarad Sbaeneg, ond doedd fy "room mate" ddim yn siarad Sbaeneg o gwbl. Hefyd, roedd o'n haws i treulio amser efo Americanwyr eraill na cyfarfod a'r pobl o Puerto Rico.

Yn anfoddus, mae rhaid dy ferch yn mynnu siarad Sbaeneg mewn pob sefyllfa. Os mae'n angenrheidiol, mae rhaid dy ferch yn mynd heb ei ffrind i ymarfer efo'r bobl leol. Mae'n anodd, dw i'n gwybod, ac yn "haws siarad na gwneud". Ond o'n i'n mor siomedig ar ol dychwelyd o Puerto Rico achos o'n i'n teimlo fel o'n i wedi gwastraffu fy amser.

Rwan, efo'r Gymraeg, dw i'n ceisio ysgrifennu heb gormod o ofn. I siarad ydy'r hanes wahanol; dw i'n brwydro efo hwn. Ond dy bost ydy llythyr atgoffa da i mi i ddal i geisio. Diolch.

(Er, sori am y sylw deleted. Cymraeg ofnadwy, a roedd rhaid i mi ei gywiro e!)

Emma Reese said...

Mi nes i ei hannog i siarad Sbaeneg cymaint â phosib neithiwr, ond yn anffodus neith fy merch ddwad yn ôl yfory'n barod. Gobeithio bod hi'n gwneud ymdrech ola heddiw.

Sgen i ddim ofn siarad â fy ffrindiau ar Skype ond rôn i'n petruso weithiau pan ô'n i yng Ngymru llynedd yn ceisio siarad â'r bobl leol.

asuka said...

mae hynny'n anodd.
mae'n hollol naturiol y bydd pobl yn glynu wrth ei gilydd mewn sut sefyllfaoedd. anodd bod yn ddewr (yn enwedig i rywun ifanc, efallai) - a smo ti am fod yn gas wrth bobl sy'n llai dewr na ti 'chwaith.
gobeithio i dy ferch di elwa ar y profiad beth bynnag. efallai bod hi'n siarad yn fwy nag mae hi'n credu.

Emma Reese said...

Ella, ac dw i'n siwr bod y daith yn brofiad da er bod hi ddim yn cael siarad Sbaeneg cymaint ag oedd hi isio.

Linda said...

Hola!
Pan mae myfyrwyr o wledydd eraill yn dod i Ddyffryn Comox, byddant yn cael eu gwahanu ac yn aros efo teuluoedd gwahanol er mwyn iddynt gael pob cyfle fedran nhw i siarad Saesneg , yn hytrach na'i hiaith cyntaf.
Gobeithio fod dy ferch wedi mwynhau ei hun ! Cawn ei hanes yn fuan dwi'n siwr :)

Corndolly said...

Dw i'n teimlo dros dy ferch. Dw i'n gwybod yn union pa fath o broblem mae hi'n wynebu! Ond rhaid iddi hi fwrw ymlaen os bydd hynny yn bosib, rhag ofn iddi hi ddod adre yn siomedig iawn.

Gwybedyn said...

Rwy'n cofio profiadau tebyg pan fues wrthi'n dysgu Gwyddeleg - yn byw mewn ty^ am gyfnod y mis o ysgol haf gyda phobl o nifer o wahanol lefelau ieithyddol. Trueni imi oedd bod y rhai oedd yn ddechreuwyr pur yn cwyno bob tro y byddai'r rhai ohonom oedd a^ gair neu ddau yn ceisio siarad Gwyddeleg rownd y ford amser brecwast neu swper - roedden nhw'n awgrymu ein bod ni'n anghymdeithasol ac yn elitaidd! Ac mi gollon ni fis o gyfle i siarad Gwyddeleg gyda 'bean an ti' a 'fear an ti' am fod y Saeson (Americanwyr ar y cyfan) yn mynnu troi pob sgwrs yn Saesneg.

Sosioieithyddiaeth yr ieithoedd Celtaidd ar lefel macro - bord y gegin mewn ty^ yn y Gaeltacht.

Rhaid ceisio osgoi pobl fel hyn, neu jyst rhoi'r blinkyrs 'mlaen, fel y byddai RS Thomas yn ei wneud ar draethau Aberdaron adeg haf, pan ddelai'r "creaduriaid mewn bikinis" heibio a mynnu giglan Saesneg dros y lle! :)

Rhaid cofio _nad_ y Saesneg yw unig (na phrif) iaith y byd - mae pob iaith yn gydradd, ac mae'r rhai sy'n meddwl fel arall... yn rong!

Emma Reese said...

Diolch i chi Linda, Corndolly, szczeb am eich sylwadau.

Mi ddaeth fy merch yn ôl yn ddianaf heno. Roedd y diwrnod ola'n llawer gwell gan fod 'na ddysgraig arall yn y llety oedd yn awyddus iawn i siarad Sbaeneg. Ac mi naeth y ddwy aros efo'i gilydd ar wibdaith ddoe a siarad Sbaeneg trwy'r dydd.