

Wrth i alergedd yr hydref fynd o nerth i nerth, penderfynes i fynd i ganolfan ffitrwydd y brifysgol p'nawn ma i gerdded ar felin draed. Gas gen i'r teimlad chwap ar ôl stopio'r peiriant. (Oedd bron i mi syrthio heddiw!) Ac dydy cerdded arni ddim cystal â cherdded yn yr awyr agored, ond sgen i ddim dewis ar hyn o bryd.
Ac eto, rôn i'n teimlo'n braf tra mod i'n cerdded yn glou ^^. Roedd 'na ddwy sgrîn deledu fawr ar y wal, ond wrth gwrs dôn i ddim isio gweld rhaglenni Saesneg Americanaidd ond gwrando ar fy CD Cymraeg. Ar ôl llai na hanner awr, roedd rhaid i mi fynd i gasglu'r plant dan adael Begw a Winni'n trafod darpariaeth Winni i fynd i Lundain i weini at y Frenhines Victoria. Mae'r sgîn yn dangos mod i'n cerdded 1.37 milltir am 23.56 munud a llosgi 117.4 calori.
Bydd rhaid i mi gychwyn yn gynt y tro nesa.