Saturday, September 20, 2008

i-ffôn


Mae 'ngwr newydd brynu i-ffôn wedi'r pris gostwng hanner cant y cant bellach, ac mae o wrth ei fodd yn dysgu sut i ddefnyddio'r teclyn diweddara ar hyn o bryd. Dyfais anhygoel ydy hwn. Beth nesa, tybed.

5 comments:

Chris Cope said...

Dwi eisiau un o'r rhain. Er, a bod yn hollol onest, wn i ddim beth fyddwn i'n gwneud â'r peth. Mae gennyf ffôn normal a go brin ddefnyddiaf ef.

asuka said...

beth yw'r peth mwyaf "waw" mae'r ffôn yn ei wneud?

Emma Reese said...

Na finna, Chris. Ond mae o'n edrych yn reit smart.

Mae'n anodd dweud, Asuka achos bod 'na nifer mawr o pethau "waw" mae'r tecyn bach ma'n medru gwneud.

Corndolly said...

Mae'n edrych yn anghygoel ond faswn i ddim yn gwybod ble i ddechrau. Dw i'n dal i geisio dysgu sut i ddefnyddio fy ffôn symudol newydd a gefais ym mis Gorffennaf.

neil wyn said...

Wnes i ymweled â'r siop 'Apple' newydd yn Lerpwl cwpl o wythnosau yn ôl. Mae'r stwff i gyd yn mor glyfar a chelfydd, ces i hwyl yn chwarae gyda'r i-podiau 'touch' ac ati. Mae'r i-ffôn yn edrych fel tegan gwych, ond gyda 17mis o fy ngytundeb ar ôl, prin iawn fydd y siawns o un yn dod ffordd yma yn y dyfodol agos. Pechod yw cenfigen on'd ydy...?