Wednesday, November 19, 2008

denmarc v cymru

Dw i ddim yn dilyn chwaraeon fel arfer, ond edryches i ar y newyddion am y gêm bel-droed ddwywaith heddiw: Denmarc v Cymru. Wnaeth y ddolen fy atgoffa i o fy nyddiau gynt pan ôn i'n teipio llythyrau Daneg ar deipiadur cyn adeg y cyfrifiaduron. 

Rôn i'n gweithio yn swyddfa fach Store Nordiske Telegraf Selskab (Great Northern Telegraph Company) yn Tokyo amser maith maith yn ôl. Dôn i ddim yn medru Daneg, felly teipio wnes i heb wybod beth ôn i'n teipio yn ôl llawysgrifen fy mos.

Dechreues i ddysgu Daneg ond rhoi'r gorau iddi'n ddigon cynnar gwaetha'r modd. Dylwn i fod wedi dal ati. Yr unig ymadrodd dw i'n ei gofio ydy, "mange tak" - diolch yn fawr.

2 comments:

asuka said...

am hanes ddifyr! rwy'n siwr byddai'n cymryd tipyn o amser teipio llythyr mewn iaith nad o't ti'n ei medru'n llwyr!

Emma Reese said...

Byddai, ond doech chi'n gyfarwydd â'r gwaith yn ddigon buan. Rôn i'n sylwi ar gamsillafiad mewn llawysgrifen fy mos weithiau!