Monday, November 24, 2008

wrth smwddio

Newydd orffen smwddio dw i. Wedi bod wrthi am awr a hanner tra ôn i'n gwneud popeth arall. Dw i wrth fy modd yn smwddio a dweud y gwir. Dw i ddim yn hoffi'r gwaith ei hun ond mae'n gyfle ardderchog i mi wrando ar raglenni hir Radio Cymru wrth wneud y gwaith. 

Dei Tomos oedd fy newis bore ma. Dôn i ddim yn dallt popeth wrth gwrs ond mae'n hyfryd trochi fy hun yn y Gymraeg yn ddigon hir. Cyfweliadau mewn studio, dim ar ffôn sy'n ddelfrydol. Roedd y pynciau'n eitha diddorol (llyfrau am Kate Roberts, allfudiad i Awstralia ac ati) a Chymraeg y gwesteion yn ddymunol braidd.

4 comments:

asuka said...

falle dylwn innau ddechrau smwddio - ond y celai 'mhriod i sioc go dda! ^_^

Emma Reese said...

Waeth i ti heb na trio.

asuka said...

ie! waeth imi dreio ddim! neu, ddylwn hynny fod "nage! ni waeth imi heb â threio...", tybed? 6_6

dylwn i ei dreio fe p'run bynnag!

Gwybedyn said...

'Suk - mi bostia' i rai pethau atat iti gael esgus i smwddio! Cei'u hala nhw nôl ata' i ar ôl iti lenwi dy glustiau!

Emma - diolch iti am f'atgoffa am y sgwrs am Kate Roberts - rhaid imi wrando.