Saturday, November 15, 2008

lleuad wen


Doedd dim rhaid i mi godi'n gynnar. Bore Sadwrn. Ond deffres i'n gynt nag arfer a methu mynd yn ôl i gysgu. Codes i a chael cip ar y tywydd drwy'r ffenestr. Cyfarchodd y lleuad wen yn yr awyr lwydaidd. Es i allan i dynnu llun ohoni hi oedd yn crynu yn y gwynt main (a finna!)

6 comments:

asuka said...

mae'n edrych yn oeraidd braidd - brrr! eira cyntaf y flwyddyn fan hyn heno.

Corndolly said...

Dw i'n hoffi dy lun hefyd, ond wnes i ddim sylwi dy fod di'n dioddef efo'r un broblem fel fi - crwydro o gwmpas y lle yng nghanol y nos.

Peggi Rodgers said...

Hyfryd iawn, Emma. Lleuad gaeaf perffaith.

Emma Reese said...

Roedd y lleuad yn drawiadol. Ond dim ond saith o'r gloch yn y bore oedd hi, dim yng nghanol nos. Does 'na ddim eira yma eto.

Linda said...

Dwi'n hoffi'r llun yn fawr iawn emma ..y lleuad yn ganolbwynt a brigau noeth yr hydref fel ffram o'i gwmpas.
Perffaith !

Emma Reese said...

Diolch i ti, Linda a phawb. Roedd yn werth mynd allan yn yr oerni wedi'r gwbl. : )