Saturday, November 29, 2008

cinio diolchgarwch 2



Aethon ni drwyddi ac yn fodlon. Roedd 'na ddwsin ohonon ni gan gynnwys tri gwestai yn mwynhau'r cinio a'r noson. Caethon ni dwrci da eleni oedd yn pwyso 18 pwys. Ces i fo'n ddigon cynnar wedi cael cymaint o drafferth dadrewi un drwg y llynedd. Gwyliodd pawb 'Kung Fu Panda' ar ôl y cinio. Mae 'na ddigon o fwyd ar ôl i swper heno.

y llun uwch: 'ngwr sy'n torri'r twrci (ei waith ydy hyn bob blwyddyn.)

2 comments:

Corndolly said...

Dw i'n falch bod dy bryd o fwyd mor llwyddiannus eleni. Mae'r twrci yn edrych yn flasus iawn. Byddwn ni'n cael twrci dros y Nadolig ond fydd o ddim mor enfawr â'r twrci yn y llun 'ma. Dw i'n ysgrifennu hyn ar y cyfrifiadur newydd, mae'n llawer gwell nag yr hen un, yn fwy tawel hefyd. Rhaid i mi osod Skype arno heddiw.

Emma Reese said...

Da iawn ti. Llongyfarchiadau ar dy gyfrifiadur newydd!