Tuesday, November 18, 2008

diweddaru trwydded yrru


Caeth 'ngwr drafferth fawr wedi i'w drwydded yrru ddod i ben heb sylweddoli. Rôn i'n fwy na awyddus i ddiweddaru fy un i yn ddigon cynnar felly. I ffwrdd â fi i swyddfa'r drwydded. Aeth popeth yn hawdd dros ben. Doedd dim rhaid i mi ddangos fy mhasport neu gerdyn adnabod hyd yn oed. Dim ond talu'r ffî a chael tynnu fy llun wnes i. Bydd fy nhrwydded yn dda am bedair blynedd arall.

llun: platiau trwydded o daleithiau eraill

2 comments:

Gwybedyn said...

Da iawn ti, ond ha! ha! wrth ddarllen y blogiad yma roeddwn i'n hanner disgwyl iti ddweud iti fynd lan a gwylltio am iddyn nhw wrthod gadael iti wneud dy gais yn Gymraeg! ^^ (dyna is-ymwybod y Cymro, sbo! "Roedd Emma yn eneth eithafol..." ^^).

Un pwynt gramadegol, os caf:

Os bydd "wedi" yn cael ei ddilyn yn syth gan enw (neu gymal enwol) bydd yn gweithio fel arddodiad syml:

wedi tri o'r gloch 'after three o' clock'
wedi cyrraedd Caerdydd 'after reaching Cardiff'
wedi ei drwydded yrru: 'after his driving licence'
wedi dod i ben 'after finishing' / 'having finished'

os ydyn ni eisiau dweud pwy neu beth ddaeth i ben mae'n bosibl inni ddefnyddio i, ac mae'r "i" yma yn achosi treiglad meddal i'r gwrthrych:

wedi iddo ddod i ben 'after it / he finished'

Yn anffodus, does dim ystyr i wedi ei drwydded yrru dod i ben. Cei brofi hyn gan tsiecio a ydy *ei drwydded yrru dod i ben yn ramadegol gyflawn ynddo'i hun - a dyw ef ddim.

Rhaid defnyddio "i" fan hyn hefyd, felly:

wedi i'w drwydded yrru ddod i ben

Emma Reese said...

Gobeithio wna i gofio'r wers ma. Llawer o ddiolch i ti am sgwennu, szczeb.