Saturday, November 8, 2008

katfish kitchen




Es i a'r teulu i Katfish Kitchen, un o'r tai bwyta poblogaidd yn y dre am swper heno. Mae ei brisau'n eitha rhesymol a chewch chi gymaint o fwyd da. Mae o'n enwog am ei saig 'Catfish' ond  mae 'na ddewis eang ar y fwydlen. Ces i 'Tilapia', reis, ffa a thaten wedi'i phobi. Doedd 'na ddim lle am bwdin yn anffodus.

3 comments:

asuka said...

dim... lle... i... bwdin...
hmmm. sori, sa' i'n deall y cysyniad 'na! er y galla' i ddychmygu bwyta llawer o fwyd y mae golwg mor ffeind arno. falch ichi i gyd gael noson dda!

Linda said...

Www...mae hwnna'n edrych yn dda emma. Falch fod pawb wedi mwynhau'r pryd arbennig !

Emma Reese said...

Do wir. Diolch i chi, Asuka, Linda.