
Cyn i blant ein hysgol fach fynd ar wyliau wythnos ma, cynhaliwyd Noson Ganu neithiwr. Roedden nhw wedi bod wrthi'n paratoi ati hi am wythnosau gan ddysgu nifer o ganeuon ar gof. Canon nhw nerth eu pennau a chanon'n dda iawn.
Dan ni'n mynd i gael dau ginio diolchgarwch eleni, un efo rhai o'r myfyrwyr Japaneaidd yn y dre ddydd Iau a'r llall yn ein tyˆ ni ddydd Gwener. Sgwenna i amdanyn nhw wedyn.
No comments:
Post a Comment