Wednesday, June 3, 2009

pîn-afal



Roedd pîn-afalau aeddfed ar werth yn Wal-Mart a phrynes i un i swper. O, roedd o'n felys dros ben yn annhebyg i un a gaeth Taeko a'i theulu yn y ffilm, Only Yesterday. Mae'r gwr yn gwybod y ffwrdd orau i'w tafellu nhw wedi cael ei fagi yn Hawaii. A dyma fo'n dangos ei sgil.

4 comments:

asuka said...

waw - os oedd blas y ffrwyth 'na mor wych a'r olwg, dyna dipyn o bîn-afal oedd e! fel y gwedodd taeko, y pîn-afal yw brenin y ffrwythau, a hwn'na yw brenin y pîn-afalau.

asuka said...

na, sori - banana oedd brenin y ffrwythau wrth gwrs. rwy'n cofio't olygfa ond smo f'ymennydd i'n gweithio'n iawn ar hyn o bryd.

Corndolly said...

Hmm, Mae'r pîn-afal yn edrych yn flasus iawn. Yn anffodus, mae'r rhai dw i wedi prynu yma o'r blaen wedi bod yn eithaf sur. Dw i'n hoffi bananas - brenin y ffrwythau!!

Emma Reese said...

pîn-afal ydy 'pineapple' felly? Afal pîn, yn ôl geiriadur Learnwelsh!

Roedd o'n wych o bîn-afal a ges i erioed! Dw i'n hoffi bananas hefyd a bwyta un bob bore. Chwaer Taeko a ddwedodd mai bananas ydy brenin y ffrwythau.