Saturday, June 27, 2009

i hela cnau


Yr unig reswm a brynes i'r nofel hon gan Marion Eames flynyddoedd yn ôl oedd bod hi ar restr gynigion arbennig Gwales.com. Mwynhau'r stori ddifyr wnes i beth bynnag er gwaethaf y Gymraeg braidd yn heriol ar y pryd. Dw i newydd ddarganbod bod yr awdures wedi dysgu Cymraeg!

Dechreues i ei hail-ddarllen wedi gorffen Rhannu'r Ty. Dw i ddim yn prynu llyfr Cymraeg ar lein ar hyn o bryd. (Dw i'n bwriadu gwneud y gwaith siopa ym maes yr Eisteddfod.) Mae hi'n dda iawn. Dyma un frawddeg ddiddorol, i mi o leiaf.

"O'u blaenau gwelsant ffigur yn cwmanu dros rywbeth a ddaliai rhwng ei goesau ar lawr."

Roeddwn i'n medru dyfalu beth ydy ystyr "cwmanu" oherwydd y cymal a weles i yn Rhannu'r Ty, sef "yn ei gwman," diolch i Linda am ei help!





1 comment:

Corndolly said...

Dw i eisiau gwneud yr un peth - sef prynu llyfrau o'r stondinau. Ond os ydw i'n mynd ar y bws, rhaid i mi fod yn ofalus i beidio â phrynu gormod. Aeth Rosemary B â sach deithio y tro diwethaf ac roedd yn hawdd iawn i'w llenwi. Ond aethon ni yn y car (diolch byth) gan fod y sach deithio'n drwm iawn erbyn diwedd y dydd.