cinio gŵyl dewi
Cawson ni gawl cennin (efo tatws, bacwn, persli a hufen,) tost caws a Bara Brith i ginio Gŵyl Dewi. Dydy neb arall yn dathlu'r Ŵyl yn ein hardal ni. Gwnes i'n siŵr fod fy nheulu'n ymwybodol ohoni hi drwy osod y bwrdd yn arbennig. Maen nhw'n hoff iawn o ginio Gŵyl Dewi beth bynnag. Fydden nhw ddim yn cwyno pe bai hi'n ddydd Gŵyl Dewi bob mis!
3 comments:
Mae'r cinio yn edrych yn hyfryd iawn Junko ! Ddaru ti fynd i fwy o drafferth na wnes i efo'r cawl cennin. Mi fydd yn rhaid i minnau drio bacwn ynddo hefyd y tro nesaf.
Digon o gawl yn weddill ar gyfer ein cinio heddiw :)
Cawsoch chi bryd o fwyd blasus iawn mae'n siwr. Wnaeth fy merch dysgu sut i ddweud Dydd Gŵyl Ddewi hapus yn yr ysgol (cofiwch, dyni'n byw yn Lloegr), yn bennaf am fod ei hathrawes Saesneg hi'n dod o Wrecsam, chwarae teg iddi:)
Mi wnes i roi'r cyfan wedi'i goginio mewn "blender" cyn ychwanegu hufen a phersli. Does dim ar ol!
Post a Comment