Saturday, March 27, 2010

bbc vocab

Teclyn hwylus gallai fo fod. Ond yn aml iawn dydy BBC Vocab ddim yn dangos ystyr geiriau mwy anodd tra bydd o'n esbonio rhai syml.

Pa ddysgwr sy'n ddigon profiadol i ddarllen newyddion Cymraeg ddim yn gwybod beth ydy Cymru? Ond dydy gair fel 'crebachu' ddim yn cael ei liwddangos ar y dudalen hon. Ddim yr unig enghraifft ydy hyn chwaith. Well i mi beidio troi ato fel na cha' i mo fy siomi.

2 comments:

neil wyn said...

Dwi wedi sylwi hynny hefyd, gallech chi fod yn sicr na fydd cyfieithiad ar gael i'r unig gair dachi heb ei ddeall!

Mae'r union un beth yn wir am y geirfeydd sy'n ymddangos ar waelod tudelannau Cymraeg y Daily Post, cyfieithiadau o eiriau cyffredin, ond nid o'r rhai annodd!

Corndolly said...

A finnau ! Dw i wedi cael yr un profiad! Mae'n anhygoel sut nad yw'r gair sy angen ei gyfieithu ar y rhestr neu wedi cael ei ddangos yn felen ar y sgrin.