Gadawa i am Japan yfory. Bydda i'n treulio'r rhan fwyaf o'r amser gyda fy mam a fydd yn 88 oed y mis nesa. Eith y teulu at fy merch hynaf yr wythnos nesa gyfan ar wahân i'r gŵr sy'n gorfod dychwelyd yn gynt i weithio (a gofalu am y moch cwta a'r pysgod.)
Prynais i lyfr Cymraeg i ddarllen ar yr awyren yn benodol. Mae'r iPod wedi ei lenwi gyda fy ffefrynnau. I ffwrdd â fi felly. Edrycha i ymlaen at sgrifennu fy mlog yr wythnos wedyn.
1 comment:
Yn edrych ymlaen i ddarllen am dy hanes yn Japan.
Dymuniadau gorau tuag at benblwydd dy fam ...
Post a Comment