Sunday, March 21, 2010

cenhinen pedr yn zushi




Un o'r pethau roeddwn i'n edrych ymlaen ato yn Japan oedd cyfarfod Catharine, Cymraes Gymraeg o Sir Fôn. Mae hi'n byw yn Japan ers 45 mlynedd wedi priodi dyn o Japan. Es i i Zushi, tref fach dwt ar lan y môr i'w chyfarfod a Nagako, ei ffrind Japaneaidd sy newydd ddechrau dysgu Cymraeg.

Mae Catharine yn dysgu'n llawn amser fel athro mewn prifysgol leol ac yn hollol rugl yn Japaneg. Ces i fy synnu'n clywed bod Dewi Llwyd wedi dod o'r blaen i Zushi i'w chyfweld hi.

Roedd hi'n ddiwrnod braf. Cerddais i ar y traeth cyn mynd i dŷ Catharine. Yna, ces i amser gwych gyda nhw'n sgwrsio, mynd am dro i ben y bryn a chael te blasus. Aeth yr amser heibio'n rhy gyflym. Roedd rhaid i mi adael yn gynnar i osgoi 'rush hour' ar y trên.

Roedd un genhinen Pedr o Ynys Môn yn dal i flodeuo yn ardd Catharine.

2 comments:

Linda said...

Da clywed dy fod wedi cyfarfod Catharine . Ai dyma oedd y tro cyntaf i ti siarad Cymraeg yn Japan felly ?
Traeth hyfryd iawn ac un cenhinen pedr ddewr.

Emma Reese said...

Ia wir. Ces i fy nrysu a dweud y gwir oherwydd bod Nagako ddim yn sirad Cymraeg eto ond roedd hi eisiau ymarfer ei Saesneg ac roedd gŵr Catharine yn siarad Japneg (er fy mod i'n siŵr fod o'n medru Saesneg.) Felly, roedd tair iaith ar waith ar unwaith! Diwrnod hyfryd beth bynnag.