Dw i'n ôl wedi treulio wythnos ddymunol yn Japan. Dyma'r tro cyntaf i mi fod yno ers tair blynedd. Treuliais i'r rhan fwyaf o'r amser gyda fy mam a oedd wrthi'n coginio prydau o fwyd blasus drosta i. Roedd yn braf cerdded y ffyrdd cul distaw ger ei fflat a'r strydoedd prysur gydag amrywiol o siopau wrth y ddwy ochr. Roedd yn ddigon oeraidd i fwynhau'r bath Japaneaidd gwych hefyd. Y peth rhyfedd oedd i mi deimlo fel pe bawn i wastad yn byw yn Japan heb symud i nunlle.
3 comments:
Croeso adref ! Yn edrych ymlaen i ddarllen am hanes dy daith i Japan.
Dwi'n falch o glywed ges ti drip dda, a diolch am bostio'r lluniau o Japan hefyd!
Diolch am y lluniau, Emma. Cydnabyddaf y teimlad o fod adre ar ôl byw tramor am flynyddoedd. Teimlaf yr un peth wrth ddychwelyd i Gymru weithiau.
Post a Comment