Friday, January 21, 2011

cerdyn gwrdd

Mae'n amser i adnewyddu fy ngherdyn gwyrdd eto. Codais i'n fore (4 a.m.) a mynd i'r swyddfa agosaf yn Fort Smith, Arkansas sydd rhyw 70 milltir i ffwrdd. Y gŵr a yrrodd yr holl ffordd wrth gwrs; dw i'n anobeithiol am yrru tu allan i'r dref fach hon. Roedd y ffyrdd ddim cynddrwg na'r disgwyl er gwaetha'r eira a gawson ni ddoe. Cyrhaeddon ni mewn pryd (7:30) ac aeth popeth yn iawn.

Roedd y siwrnai adref yn un ddymunol wedi i mi gyflawni'r ddyletswydd yn ddidramgwydd. Ces i gyfle i weld (achos bod yna ddigon o olau!) bryniau braf Arkansas wedi'u gorchuddio gan eira...Lake Tenkiller...... cyn syrthio i gysgu'n braf.

3 comments:

Linda said...

Falch fod pob dim wedi mynd yn dda i ti , a dy fod wedi cael siwrna dda hefyd .

Emma Reese said...

Diolch i ti Linda. Costiodd dipyn fodd bynnag ($450!)

Linda said...

Ouch !