Sunday, February 13, 2011

biti ynte, mam


Fel dwedodd Begw, mae'n biti bod popeth yn newid. Yr eira a gawson ni'n ddiweddar dw i'n ei feddwl rŵan. Mae'r tywydd wedi troi'n gynnes wedi'r eira mawr, ac mae o'n prysur doddi. Yr eira a oedd yn anhygoel o wyn wedi troi'n frown a du ar ochrau'r ffyrdd. Mae'r haul yn tywynnu ac mae'r awyr las yn disgleirio, ond rhywsut neu'i gilydd, dw i'n teimlo'n drist yn enwedig wrth weld yr iglw a wnaeth y plant yn mynd yn llai.

"Paid â phendroni, 'd oes yna ddim byd yn bod yn y byd yma ond newid," meddai mam Begw. Ond pendroni ydw i fel Begw.

2 comments:

Linda said...

A phendroni ydan ni i gyd , run fath a Begw ! Mor drist ydi gweld yr iglŵ, a chafodd gymaint o sylw yn brysur ddiflanu :(
Lwcus dy fod ti wedi tynu lluniau o'r gampwaith. Mae hyn yn rhoi atgof parhaol o'r gampwaith i ti ac i'r plant!

Emma Reese said...

Ydy siŵr. Hefyd dw i'n falch bod neb wedi ei fandaleiddio. Roeddwn i'n poeni tipyn oherwydd fod o mewn cae tua ddau gan llath o'n cartref ni.