Wednesday, February 9, 2011

wedi gorffen!



Roedd y plant yn dal i wneud yr iglw a'i orffen ddoe. Daeth eira arall yng nghanol nos a gorchuddio'r iglw'n braf. Rhaid cael picnic ynddo fo felly (mae'r ysgolion wedi cau,) a dyma nhw'n gosod darn o garped ar y llawr a gwledda ar fisgedi a chwarae gemau bwrdd. Paid â phoeni, Antwn; mae'n annisgwyl o gynnes tu mewn.

8 comments:

Robert Humphries said...

Llongyfarchiadau! Mae hynny'n "cwl" go iawn!

Emma Reese said...

Diolch yn fawr!

Linda said...

Da iawn . Braf cael gweld yr iglŵ wedi ei orffen a'r llun yn eich papur lleol hefyd !
Mae'n debyg fod pawb yn ôl yn yr ysgol rwan ?

Emma Reese said...

Nac ydyn! Mae'r ysgolion yn dal ar gau heddiw. Cawson ni 6 modfedd o eira a wnaeth atal pob dim. Mae'r ffyrdd yn dal yn beryglus, ond dan ni'n disgwyl tywydd cynhesach dros y Sul. Rhaid ffarwelio â'r iglw felly....

neil wyn said...

Am gampwaith! da iawn!!

Emma Reese said...

Diolch! Ond bellach does dim byd i'w wneud efo fo ond cael cip arno fo o dro i dro (i wneud yn siŵr bod o'n dal i sefyll!)

Corndolly said...

Newydd ddod yn ôl at ddarllen blogiau ydw i, felly sori mod i wedi colli cymaint o dy newyddion. Wnes i ddim sylwi bod gen i gymaint o dywydd drwg. Cawsom ni dywydd ofnadwy cyn y Nadolig, ond diolch byth na chawsom ni fwy o eira ers hynny. Ond llawer o law yn ddiweddar.

Emma Reese said...

Neis clywed gen ti, Corndolly. Welais lun ohonat ti ar flog Jonathan. Ella bod eira Cymreig wedi dod yma! Mae'n braf bellach.