Saturday, June 18, 2011

cymru 2011 - llanberis 1


Dw i'n disgyn oddi ar y tacsi wrth Siop Joe Brown a mynd i Farteg i adael y cês. Yna at Ganolfan Groeso i weld ydy Gwilym yno. Dyma fo'n eistedd o flaen y swyddfa efo ffrind yn sgwrsio. Chafodd o ddim ei synnu fy ngweld; peth arferol yn yr haf. Trist clywed mai fo ydy'r unig staff bellach a bydd y ganolfan yn cau ym mis Medi oherwydd y toriadau. Maen nhw'n effeithio ar bob dim.

Mae yna ddefaid yn crwydro'n rhydd ar strydoedd a mynd i erddi pobl i bori. Dw i'n ofni bydden nhw'n cael eu taro gan geir. Mae'r pentref yn llawn o bobl athletaidd heddiw; cynhaliwyd Triathlon yma a nofion nhw yn Llyn Padarn rhewllyd! Hogyn lleol a enillodd.

Braf gweld yr wynebau cyfarwydd yng Nghapel Coch gyda'r hwyr. Cyri Indiaidd efo naan cartref i swper wrth ymyl Llyn Padarn, cyri gorau a fwytais i erioed.




3 comments:

neil wyn said...

Mae'n siom ac yn syndod clywed bod Canolfan Croeso Llanberis yn cau, a'r hen dref yn dibynnu cymaint ar dwristiaeth erbyn hyn. Mae toriadau i weld yn anystyriol iawn weithiau.

Emma Reese said...

Dal i ddibynnu ar dwristiaeth mae'r dref, ond bydd rhaid i'r ymwelwyr fynd i Gaernarfon os byddan nhw eisiau gwasanaeth canolfan groeso.

Linda said...

Mae'r cyri yn edrych yn flasus iawn :)