Sunday, June 19, 2011

cymru 2011 - llanberis 2

Roedd yn stormus yn y bore ond ciliodd y cymalau yn y pnawn, felly ffwrdd â fi i grwydro. Gan ei bod hi'n dal yn oer, prynais i dop cynnes mewn siop gyfagos.

Dw i'n anelu at Amgueddfa Lechi. Gwelais i bopeth y tro diwethaf ond mae naddu llechi ar fin cychwyn; i mewn i'r adeilad efo dwsin o dwristiaid. Ar ôl yr arddangosiad gan grefftwr medrus, dw i'n cael gair gydag ef. Fo sydd ar bamffledi'r amgueddfa ac un clên hefyd.

Wrth i mi gerdded o gwmpas y dref, gwelais i hogiau ifanc wrthi'n chwarae gêm pêl-droed ar y cae yn ymyl Llyn Padarn. Dyma ymuno â'r rhieni brwdfrydedd a mwynhau rhan o'r ail hanner. Roeddwn i'n edrych ymlaen at weld gêm gartref tîm Llanberis ond mae'r tymor wedi drosodd yn barod.

2 comments:

Linda said...

Yn edrych ymlaen i ddarllen am fwy o hanes dy ymweliad â Chymru . Newydd lawrlwytho'r lluniau yma , ac fe wnaf yrru rhai ohonynt i ti yfory !

Emma Reese said...

Diolch i ti Linda. Wyt ti'n bwriadu sgwennu dy hanes?