Sunday, August 28, 2011

atgofion

Mae darllen Blog Tokyobling yn fy atgoffa i o fy mhlentyndod sydd wedi bod yn gorwedd yn fy isymwybod ers blynyddoedd.

Mae'r awdur yn hoff iawn o ddawnsio gwerin o'r enw Awaodori. Pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd yn Japan (amser maith yn ôl,) roedd rhai o'r disgyblion yn gorfod mynd o gwmpas y cae ysgol yn ystod y ffair ysgol yn dawnsio'r ddawns hon. Cawson ni wers sydyn cyn cychwyn, a ffwrdd a ni. Yn anffodus roedd pawb yn rhy swil i wneud dim byd ond gorymdeithio wrth i'r gerddoriaeth fynd ymlaen drwy'r uchelseinydd. Chawson ni ddim gwisgo'r gwisgoedd traddodiadol chwaith ond sawl un ar ben y rheng beth bynnag.

No comments: