Friday, August 26, 2011

dysgu cymraeg trwy gyfrwng japaneg

Llongyfarchiadau i'r ddau ddyn a sgrifennodd llyfr i ddysgu Cymraeg trwy gyfrwng Japaneg. Does llawer o bobl yn Japan yn gwybod lle mae Cymru heb sôn am y ffaith bod ganddi hi iaith eu hun. Mae yna gymdeithasau Cymru yn Tokyo ac Osaka, fodd bynnag, ac mae rhai wrthi'n hybu Cymru a'r Gymraeg. Gobeithio y bydd y llyfr yn cyfrannu at eu hachos.

Dw i ddim yn bwriadu prynu copi gan fod o braidd yn ddrud - dros 4,500 yen (£35) gan gynnwys y tâl post. Ond fe fyddwn i'n hapus ei adolygu pe bai Bwrdd yr Iaith yn fy nghomisiynu. :)

4 comments:

neil wyn said...

darllenais ddarn ar wefan y bbc yn rywle am y llyfr hwn. Mae'n wych tydi, er braidd yn rh hwyr i tithau wrth gwrs!

Emma Reese said...

Ydy, bydd o'n helpu hybu Cymraeg yn Japan gobeithio.

Sarah Stevenson said...

Do'n i ddim wedi clywed am hynny! Bydd hi'n werthfawr iawn i ddysgwyr Cymraeg yn Siapan, dw i'n siwr.

Emma Reese said...

Bydd heb os.