Dw i'n gyffro i gyd yn cychwyn blog am y tro cynta. Amcan y blog 'ma ydy gwella fy Nghymraeg gan ormodi fy hun ysgrifennu rhywbeth bob dydd (gobeithio.) Dw i'n gobeithio y bydd ysgrifennu yn gyhoeddus fel hyn yn gwneud i mi fod yn atebol am ddysgu'r iaith.
Dw i wrth fy modd efo Skype! Dw i'n ymarfer siarad efo fy ffrind yng Nghymru (dysgwraig arall) dwy neu dair gwaith yr wythnos. Dan ni'n siarad am bethau cyffredin, ac mi naethon ni gychwyn dysgu efo'n gilydd, sef bod ni'n ysgrifennu ymlaen llaw deg brawddeg ar ôl "Intermediate Welsh" gan Gareth King. Wedyn da'n ni'n eu darllen nhw fesul un tra bod ni'n eu cyfieithu nhw i'r Saesneg (i wneud yn siwr bod nhw'n gwneud synnwyr.) Da'n ni wedi dysgu Uned 11 - 15 erbyn hyn. Da'n ni'n cael llawer o hwyl ac mae hyn yn ymarfer da.
Heddiw, ro'n ni'n ceisio defnyddio geiriau rhannau corfforol. Dw i wedi dysgu gair newydd - padiau crimog (shin guards.)
Dw i'n siarad â Mali yng Canada weithiau hefyd. Dw i braidd yn nerfus, ond mae hyn yn gyfle gwerthfawr i mi.
2 comments:
Llongyfarchiadau mawr i ti Emma ar gychwyn dy flog Cymraeg cyntaf.
Gwych!
Cawn sgwrs yn fuan ...
Diolch i ti Linda! Mae blogio'n Gymraeg yn hwyl iawn.
Post a Comment