Gan fod Asuka newydd sgwennu enw ei blog yn Japaneg, mi nes i googlo'r gair a chael fy synnu. Mae 'na gymdeithas Cymru newydd yn Japan. Dw i'n gwybod am Gymdeithas Dewi Sant yn Japan ond mae hon yn cael ei sefydlu tair blynedd yn ôl.
Hefyd mi ddes i ar draws gwersi Cymraeg drwy gyfrwng y Japaneg ar y we. Dyma'r tro cynta i mi weld Cymraeg yn cael ei hesbonio yn Japaneg. Maen nhw'n swnio'n iawn ar wahan i "rydw i'n." Ond a dweud y gwir mae'n llawer haws dysgu Cymraeg drwy gyfrwng y Saesneg. Dw i'n meddwl bod hi'n anos dysgu unrhyw iaith arall drwy gyfrwng y Japaneg.
4 comments:
rown i'n edrych ar y cwrs 'na - sa' i'n ei ddeall e, ond mae'n wych fod e'n bodoli!
(byddai "rydw i" braidd yn od ar lafar, yn byddai?)
Ydy. Ond ar ôl darllen yr uned yn fanwl, mi ddes i ar draws y nodyn sy'n dweud bod pobl yn dweud "dw i" heb "ry" yn aml.
Byddai. :)
ie. :)
Post a Comment