Friday, April 11, 2008

ofnadwy nos

Mi nes i benderfynu peidio gorffen rhai o'r llyfrau ges i'n anrheg Nadolig. Fi ddewisodd nhw ond maen nhw'n rhy ddiflas. Fedra i ddim diodde.

Wel mae gen i ddau lyfr gan T.Llew Jones hefyd and dw i'n gwybod yn barod bod nhw'n dda heb ddarllen. Mi ddechreues i un o'r ddau, sef Ofnadwy Nos. Hanes llong enwog, y Royal Charter ddrylliwyd ar greigiau sir Fôn ym 1859 ydy hwn. Dim ond dwy bennod darllenes i ond mae'n andros o ddifyr.

Mae'n anodd dewis llyfrau da. Mae rhai yn rhy anodd a'r lleill yn rhy ddiflas. Wrth gwrs bod 'na rai sy'n ddifyr er bod nhw'n anodd fel Wythnos yng Nghymru Fydd. Ac mae 'na rai sy'n ddiflas er bod nhw'n hawdd fel rhai o nofelau i ddysgwyr. Gobeithio ca i ddewis da y tro nesa.

4 comments:

asuka said...

balch bod rhai yn apelio o leia'! pa rai oedd y mwyaf siomedig?

Emma Reese said...

Un Diwrnod yn yr Eisteddfod gan Robin Llywelyn. Anodd dallt y tafodiaith a phopeth yn ddiflas. Catrin Jones yn Unig gan Meleri W. James. Ddiflas tu hwnt.

Gwybedyn said...

Mae'n ddrwg gen i dy fod ti heb fwynhau nofel Robin Llywelyn. Mae hi dipyn yn wahanol i'r ddwy nofel arall sydd ganddo. Wyt ti wedi cael hwyl o gwbl ar ei straeon byrion sydd ar gael ar www.robinllywelyn.com? Mae lot o bobl yn dweud bod y rheiny'n wych.

Fy hoff nofel Gymraeg i ers tro yw 'O! Tyn y Gorchudd' gan Angharad Price (hefyd wedi'i lleoli yn y gogledd, wrth gwrs). Teimladwy, dychmygus, coeth a hardd.

Emma Reese said...

Diolch i ti, szczeb am y ddolen. Mi na i geisio darllen y storiau na.