Saturday, May 31, 2008

neidr!

Fedrwn i ddim coelio fy llygaid. Mi glywes i gynnwrf tu allan a chael cip trwy'r ffenest. Roedd 'na NEIDR ENFAWR ar y canllaw o dan nyth yr adar! Ac roedd mam (dw i'n siwr) y cywion yn ceisio ymosod arni. Doedd gen i ddim dewis ond gwthio hi efo ffon i lawr. (Roedd y gwr oddi cartre.) Mi naeth hi syrthio mewn gwely blodau. Dôn i ddim isio gweld be ddigwyddodd wedyn. Dw i erioed wedi gweld y fath neidr neu gyffwrdd ag un. Rhaid i ni gadw llygad ar y nyth.

2 comments:

Corndolly said...

Neidr Enfawr !! Wow. Well i ti gadw dy llygaid ymhob man, dw i'n credu. Hoffwn i ddim gweld neidr y tu allan i fy nhy. Mae'n ddigon i ymdopi efo'r gwiwerod sydd yn dwyn bwyd yr adar heb son am neidr sydd yn ceisio dwyn yr adar eu hunain.

Emma Reese said...

Mi ddylwn i fod wedi tynnu llun ohoni hi, ond mi ges i gymaint o fraw fel y mod i wedi anghofio'n llwyr.