Monday, May 12, 2008

pregeth ddydd mamau

Es i ddim i'r eglwys ddoe achos mod i ddim yn teimlo'n dda. Mi nes i wrando ar wasanaeth ar y radio. Roedd y Parch Irwin Lutzer yn pregethu fel arfer. Mamau oedd y pwnc wrth gwrs.

Yn ystod ei bregeth mi naeth o ddweud hanesyn am fam achubodd ei babi gan rapio ei chôt o'i gwmpas mewn storm eira. Buodd hi farw ond mi gaeth o'i achub oherwydd ei fam. Pwy oedd y babi ond David Lloyd George!

Mi ges i sioc pan ddwedodd o'n gynta, "In Wales, there was a mother...." Falch mod i wedi cael gwrando ar bregeth ma.

3 comments:

asuka said...

gobeithio fod ti'n holliach erbyn hyn.

asuka said...

mae 'na neges bwysig ar fy mlog harvard i, gyda llaw - rhywbeth y dylai dy fab di edrych arno!

Linda said...

Gobeithio dy fod yn teimlo'n well Emma.
Hanes diddorol yn y bregeth...wyddwn i ddim amdano tan rwan!