Wrth i mi ddarllen newyddion BBC Wales gynnau bach, mi des i ar draws pennawd rhyfedd iawn :
"Fire crews help pump out flood water from the Hay festival site..."
Mi nes i ddehongli yn fy meddwl bod criw tân wedi helpu PUMP o bobl allan o'r dwr...
Dyna beth sy'n digwydd weithiau pan ddysgwch chi Cymraeg!
6 comments:
Pan oeddwn yn dysgu y Gymaeg un o'r arwyddion oedd yn fy nrysu oedd yr un oedd yn son am heavy plant crossing - sef peirianau trwm yn croesi.
Yn fy mhen yr oeddwn ym dychmygu pobl ifanc ordew yn mynd ar draws y ffordd!
Dw i'n credu bod hyn yn rhan bwysig o ddysgu unrhyw iaith - Wel, dywedodd un o fy nhiwtoriaid. Yn aml iawn, dw i'n cymysgu'r ieithoedd. Bydda i'n dechrau un frawddeg yn Saesneg ac yn ei gorffen hi'n Gymraeg. Yn ôl rhai, dyma arwydd cyntaf yr wyt ti'n dechrau meddwl yn Gymraeg.
Diolch i chi Alwyn a Corndolly am eich sylwadau. Diddorol!
rwy newydd wylio'r caneuon anime - sôn am wych! diolch iti am eu rhannu nhw!
rwy'n falch iddyn nhw ddewis treulio ychydig amser ar y gân o "laputa", gan mor wych yw hi. ond mae peth embaras arna i wrth orfod cyfaddef nad adnabyddais i'r gân olaf - wyt ti'n gwybod beth oedd honno yn syth ar ôl "totoro"?
Dw i ddim yn gwybod dim ar wahan i Totoro! Dw i wedi clywed mai "Kaze ni naru" ydy'r cân.
http://www.animelyrics.com/anime/nekonoongaeshi/kazeninaru.htm
diolch yn fawr, emma - allwn i ddim bod 'di cysgu. (dim ond unwaith rwy 'di gweld y ffilm mae honno'n dod ohoni, felly sa' i mor gyfarwydd â'r gân 'na ag y lleill!)
Post a Comment