Sunday, May 18, 2008

mynd i muskogee

i brynu ffrogiau ar gyfer y briodas. Mi aeth y merched i gyd i ganolfan siopa yn Muskogee. Mae 'na siop sy'n gwerllu ffrogiau'n rhad iawn. Roedd yn anodd cael hyd i un priodol. O'r diwedd mi nes i ddewis un sy'n cael ei haprofi gan fy merch hyna. Mi brynes i esgidiau, bag llaw a dwy ffrog i'r ddwy fydd yn "flower girls" yn y seremoni. Dim ond $65 naeth popeth yn costio! Bargen fawr!

Roedd yn hwyr a dôn i ddim isio coginio swper ar ôl dwad adre. Felly i Taco Bell aethon ni i brynu swper. Dw i wedi blino ond yn falch mod i'n medru prynu popeth sy'n angen.

3 comments:

asuka said...

am gyffrous - rwy'n dwlu ar briodasau! elli di ddisgrifio'r wisg briodas inni? (neu fyddai hynny'n anlwcus?)

Emma Reese said...

Rhywbeth syml brynodd fy merch ar sêl ydy'r ffrog ($100!) Dw i'n addo rhoi lluniau ar ôl y briodas.

asuka said...

gwych!