



O'r diwedd! Mae blodau'r derwen wedi disgyn i gyd, ac mae lefel y paill yn isel heddiw ar ôl rhagolygon y tywydd. Mi es i am dro am y tro cynta ers tri mis. Roedd y dail mor wyrdd wedi cael eu golchi gan y glaw p'nawn ma. Roedd gan bopeth olwg newydd i mi er mod i'n cerdded yr un ffyrdd ger fy nhy. Weles i neb. Mi glywes i gân adar. Mi glywes i arogl glaw. Bendith.
llun cynta: afalau bach bach
2 comments:
y deri sy'n effeithio arna' i hefyd - ofnadwy! ydy'r gwanwyn 'ma 'di bod yn waeth na'r arfer? balch o glywed fod y alergeddau'n gwella o'r diwedd beth bynnag. ac *mae* 'na olwg bert, werdd ar bobeth!
Dw i ddim yn meddwl bod o'n waeth. Mi fydd 'na dymor alergedd yn yr hydref yma hefyd! Ragweed ydy'r achos.
Post a Comment