Thursday, May 29, 2008

damweiniau!

Mi nes i sgwennu am y nyth o dan ein bondo ni o'r blaen. Lle anaddas i nythu oedd o acos bod tri o ader bach wedi syrthio. Buodd y ddau farw (mi naethon ni eu claddu) ond mae un yn byw er bod o wedi anafu ei goes.

Dan ni'n ei gadw mewn blwch a cheisio ei fwydo. Mae o isio bwyta cymaint! Mae'r plant iau wrthi'n casglu mwydod bob awr. Maen nhw'n bwydo bisgedi ci wedi'u mwydo hefyd.

Mi glywon ni bod 'na rywun sy'n gofalu am ader truan. Dan ni'n mynd â fo yfory achos bod y plant isio ei gadw diwrnod arall. Maen nhw'n mwynhau bod yn fam iddo.

2 comments:

Linda said...

Sori gen i ddarllen am hyn :( Gobeithio y gwneith y cyw bach sydd ar ôl gryfhau.

Emma Reese said...

Mae o'n tyfu i fyny! Mae ganno fo fwy o blu ac mae ei goes wedi gwella tipyn. Mae'r plant yn brysur iawn ei fwydo bob awr.

Dan ni'n bwriadu mynd â fo i'r lloches heddiw.