Wednesday, September 24, 2008

athro o abertawe


Mi ddaeth athro o Brifysgol Abertawe i'r brifysgol leol heddiw i annog y myfyrwyr yma i ddod i Gymru am dymor. Os enillan nhw'r ysgoloriaeth, mi gân nhw ddysgu yn Adran Addysg America ym Mhrifysgol Abertawe neu fod yn brentisiad yn y Senedd yng Nghaerdydd.

Er nad oes gen i ddiddordeb yn y cynnig, roedd RHAID i mi fynd i'r sesiwn heb os. Mi gaeth fy nghlustiau sioc bob tro clywes i'r geiriau, "Wales" "Swansea" a "Cardiff." Dyma'r tro cynta erioed i mi weld unrhywun o Gymru yn y dre ma.

A dweud y gwir, Sais di-Gymraeg ydy Dr. Philip Melling, ond mae ei blant yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol. Mi ges i gyfarfod efo fo ar ôl y sesiwn a chael sgwrs sydyn.

Dim ond llai na deg o fyfyrwyr yno, ac yn anffodus fydd neb yn dwad o Abertawe i ddysgu yma ar hyn o bryd. Felly dim Canolfan Fyfyrwyr Cymraeg yn ein ty ni am y tro.

2 comments:

asuka said...

emma, sôn am siom! o wel, falle y tyfiff rhywbeth o hyn.
synnodd e gwrdd â siaradwraig gymraeg ar ei daith drwy ganolbarth america? beth a wedodd e?

Emma Reese said...

Do, ond dw i ddim yn cofio be yn union ddwedodd.... rhywbeth fel pam dw i'n dysgu Cymraeg a phethau cyffredin. Mi wnaeth o fy annog i ddwad i'r Eisteddfod.