Thursday, September 18, 2008

cyfrinach y bedd (o hyd)



Mi wnes i gyfarfod efo clerc y dre sy'n gweithio i adran y fynwent p'nawn ma, a chael copi o fap clwt Jones a Smith (teulu gwraig John B.) 

Dyma fo.  Rev. John Buttrick Jones (12/24/1834 - 06/13/1876)

Dydy ei fedd ddim lle ôn i'n meddwl i fod. Ond does mo'i garreg. Dim ond lle gwag.

Rhaid i mi gael gwybod mwy. Mi wnaeth y clerc ddweud fod 'na rywun yn y dre ma oedd yn ymchwilio am Evan a John! Dw i'n gobeithio siarad â hi.

Gyda llaw, roedd Joy, y clerc yn glên iawn. Roedd hi lawer mor chwilfrydyg â fi ac yn hapus rhoi'r gwybodaeth. Gofynodd i mi siarad Cymraeg hyd yn oed!

Diolch yn fawr iawn felly i chi, Joy! (Thank you very much, Joy!)

5 comments:

asuka said...

mae hyn oll yn mynd yn fwy diddorol trwy'r amser. beddau sydd ar goll... mapiau a allai fod yn gywir neu beidio...
gwych fod ti 'di cwrdd â rhywun arall sy'n ymddiddori yn y dirgelwch.

Emma Reese said...

Ia, ac gobeithio ca i siarad â'r ddynes na. (Mi wnes i adael neges ar ei ffôn.)

Rhys Wynne said...

Er gwybdaeth, dw i wedi dechrau erthygl wicipedia am Evan Jones, fel y soniais mewn sylw blaenorol, drwy gyfieithu tipyn o wefan Oklahoma History and Culture.

Edrychais ar yr erthygl am dref Tahlequah ar Wikipedia (byddai erthygl Gymraeg am y dref yn neis!), ac mae'n nodi bod dors 25% o drigolion y dref o dras Brodorian Americanaidd - synnais bod ffigwr mor uchel - a'i dyma un o'r rhai uchaf yn UDA?

Rhywbeth arall a'm stynodd oedd:

There are several markers of Cherokee and Native American heritage found across town: like street signs and business front signs in the Cherokee language along with English, mostly in the syllabary alphabet created by Sequoyah, a Cherokee scholar in the 1820s to endorse full literacy to his tribe.

Wyt ti'n byw yn y dref yma? Os wyt, fyddai ti'n gallu tynnu lluniau o unrhwy arwyddion ffordd/siop dwyieithog. Byddaf wedyn yn eu hychwanegu at erthyglau wicipedia - gyda dy ganiatad di.

Emma Reese said...

Mae'n wych weld dy erthygl Gymraeg yn Wicipedia!

Fedra i ddim ateb dy gwestiwn am ganran trigolion brodorion Americanaidd heb ymchwilio. Gall hyn yn bosib achos mai Cherokee ydy'r llwyth mwya. http://www.americanwest.com/pages/indrank.htm

Dyma lun o arwydd Bank of America.
http://emmareese.blogspot.com/2008/08/crwydro-yn-y-dre.html

Mi fydda i'n hapus tynnu lluniau o fwy o arwyddion dwyieithog. Wyt ti isio i mi eu gyrru nhw atat ti? Pa faint?

Dim "tal a kwa" ond "tal e kwa" ydy sut i ynganu'r dre ma.

Gwybedyn said...

diolch iti, Emma, am y wybodaeth yma - byddaf yn parhau i alw heibio i gael rhagor o 'updates' ar yr hanes ddiddorol yma.

a da iawn, Rhys, am roi lle i EJ ar yr hen Wici!