Monday, September 8, 2008

embarrassing

Mae Elwyn Hughes yn dweud bod 'na ddim gair Cymraeg sy'n medru mynegi'r teimlad mor effeithiol â 'embarrassing.' Dw i ddim yn siwr ydy pawb yn cytuno â fo ond rôn i mewn sefyllfa heddiw oedd yn haeddu'r gair ma.

Mi roies i fy ngherdyn credyd a fy nhrwydded yrru i'r clerc yn swyddfa'r post i dalu. Hyny ydy rôn i'n meddwl mai fy nhrwydded yrru roies i. Mi roiodd o dderbynneb i mi arwyddo arni. Dyma sylwi am y tro cynta mai cerdyn y llyfrgell wnes i roi iddo! Ond roedd y clerc yn glên. Dwedodd o fod o wedi fy ngweld i'n ddigon aml fel doedd o ddim rhaid iddo ofyn am fy mhrawf adnabod.

'Embarrassing' I'r dim. Allan a fi'n gyflym wrth deimlo'r gwres ar fy wyneb.

6 comments:

asuka said...

wel, os yw'r llyfrgell yn ymddiried ynot ti'n ddigon i adael cael benthyg eu llyfrau pwysig nhw, dylai hyn'na fod yn ddigon da i syddfa'r bost, am a wn i!

Emma Reese said...

Ond does 'na ddim llun ohona i ar gerdyn y llyfrgell.

Anonymous said...

Helo Emma Reese,
Thank you for your comments!
When I found Asuka's blog, I didn't understand the language.
I observed the portion. ->(cei di ddilyn y geiriau japaneg neu'r rhai spaeneg!)
I guessed 'Japaneg' may be 'Japanese'.
I searched 'Japaneg' with Google.
http://wapedia.mobi/cy/Japaneg
Cymraeg: ウェールズ語 Uēruzugo
It's written on Asuka's blog, 'ハーバードカムライグ'
It took much time to find this.
I am poor at language.
However, I am good at some computer language.
I was a Systems Engineer.
I should have studied English more.
Your blog title 'fel y moroedd' is 'like a sea' 「海のように」, isn't it?
It is difficult to understand Cymraeg.
But I enjoy your photographs o(*^▽^*)o~♪

Emma Reese said...

Hi aimar. Croeso! (Welcome!) Thanks for visiting my blog. It's interesting how you found Asuka's blog. Wow, you were a system engineer? Yes, that's what "fel y moroedd" means in Japanese. It's a part of a hymn.

Corndolly said...

Hi Emma, dw i'n gwybod y teimladau. Ceisiais i dalu yn Tesco (archfarchnad) efo cerdyn y llyfrgell hefyd. Rôn i'n teimlo'n dwp !!

Emma Reese said...

O wel, o leia wnaeth y profiad roi pwnc y blog.