Saturday, September 13, 2008

mae ike yn dwad

Mae Ike, corwynt newydd mwy nerthol na Gustaf wedi cyrraedd Texas. Rôn ni'n ei ddisgwyl dwad at ni yma yn nwyrain Oklahoma, ond mae'n ymddangos fod o'n cyfeirio tuag at orllewin Arkansas (lle mae fy mab yn byw ynddo!)

Fel arfer bydd corwyntoedd yn dechrau colli eu nerth ar ôl glanio ar diroedd, felly gobeithio mai dim ond glaw byddwn ni'n cael dros y Sul.

7 comments:

Linda said...

Wedi bod yn dilyn hanes Ike ar y newyddion . Mae o'n ddipyn o storm . Diolch byth fod nifer helaeth o thrigolion Huston a Galveston wedi ffoi mewn pryd.

Corndolly said...

Dw i wedi bod yn dilyn hanes Ike hefyd, gobeithio bydd o'n parhau colli'i nerth cyn cyrraedd yn Arkansas.

Zoe said...

Mae sparion Ike yn Indiana ar hyn o bryd. Dydy o ddim yn bwrw glaw rwan, ond mae'n gymylog ac yn wyntog iawn.

Emma Reese said...

Mae o wedi mynd o ma a dal i golli ei nerth. Dw i'n siwr bydd Zoe ac Asuka'n ddiogel.

Gwybedyn said...

Diawch - mae eleni wedi bod yn flwyddyn a hanner ar gyfer corwyntoedd.

Ac o'r diwedd - cyfle i'r athro ynof ymddangos unwaith eto! ^^

Mae 'na ryw ddyrnaid bach o wallau yn y blogiad yma:

i) Rôn ni'n ei ddisgwyl [i] ddwad at[om] ni yma yn nwyrain Oklahoma.

neu "...yn disgwyl y byddai'n dod atom..."

ii) lle mae fy mab yn byw *ynddo*.

asuka said...

gobeithio bod dy fab di'n saff.

Gwybedyn said...

ie - uwch ben pob ystyriaeth ieithyddol, gobeithiwn hynny. Gobeithoi na ddigwyddodd imi ymddangos braidd yn fyrbwyll fy nghywiro yn fan'na!