Sunday, September 14, 2008

swper


Mi gaethon ni fyfyrwraig Japaneaidd i swper heddiw. Mae hi'n helpu fy ngwr efo'i ymchwil rhan amser. Mi wnes i bryd o fwyd Japaneaidd syml sef, "tori no soboro." Cig twrci mân efo saws soia. Mae o'n mynd ar reis efo wyau wedi 'u sgramblo. A chawl past soia. Mi ddaeth y fyfyrwraig â chacen fach flasus wnaeth hi ei hun.

3 comments:

asuka said...

unwaith 'to, bwyd ar dy flog di sy'n 'nghael i'n treio bwyta sgrîn y cyfrifiadur.
pan fûm(!) yn y briodas yn baltimore, roedd ganddyn nhw fondue siocled a mefys i sticio ynddo, oedd wedi'u trefnu mewn ffordd wych y byddet ti 'di dwlu arni rwy'n siwr (ac efallai fod ti'n gyfarwydd â hi'n barod).
roedd y mefys 'ma ar bennau priciau bambw^ yn sefyll mewn pot blodau ymysg glaswellt ffug fel bod nhw'n edrych fel llu o diwlipau coch!

Emma Reese said...

Mi wnes i weld fondue siocled a mefys ym mhriodas ffrind. Roedd pawb yn gwirioni arnyn nhw.

Syniad da ydy'r tiwlipau coch.

asuka said...

wel, gwnes i gofio'r lluniau ar dy flog pan welais i'r ford bwdin yn y priodas hon. (treiais i dynnu llun â'm ffôn i, ond roedd yr ystafell yn rhy dywyll o lawer gwaetha'r modd.)