Dim glaw, dim gwynt, dim storm. Mae'n braf heddiw. Dim ond ar hon oedd y bai felly am golled y trydan y bore ma. Gwiwer! Mi glywes i fang mawr y tu allan chwarter awr cyn inni adael am yr oedfa. Doedd 'na ddim byd i'w wneud ond i 'ngwr godi drws y garej ac i ni fynd. Yn ffodus roedd popeth yn iawn erbyn i ni ddwad adre.
Mae gwiwerod yn cnoi pethau trydanol weithiau ac achosi problemau. Doedd 'na ddim modd i'w hatal rhag sut ddamwain yn ôl yr awdurdodau.
4 comments:
Beth ddigwyddodd i'r wiwer? Oedd hi wedi farw? Mae gynnon ni wiwerod yn ein gardd ni hefyd, ond fel arfer maen nhw'n ceisio dwyn bwyd yr adar.
Dw i'n siwr bod hi wedi marw. Roedd y bang yn agos iawn ac mae 'na llinell drydan uwch ein ffens gefn. Naethon ni geisio ffeindio'r tramgwyddwr ond heb lwydiant.
felly tebyg iawn i wiwer gael ei ffrio wedi'r cwbwl, er gwaetha' teitl y post...
Haha! Ti'n iawn Asuka!
Post a Comment