Mae'n wir oer. Mae'r llu o'r buchod coch cota nythodd ar wal yn ein hystafell fyw wedi mynd bellach. Ond mae 'na ambell i rai sy'n dal. Ces i hyd i ddau oedd yn edrych yn drist braidd heddiw a gwneud cynefin sydyn iddyn nhw. Rhododd y plant ddiferyn o ddwr siwgr a dal hyd yn oed gwybed i'w bwydo. Mae'r buchod bach bach yn hapus.
llun: Dach chi'n medru gweld un ar y ddeilen ar y chwith?
2 comments:
mae'n rhyfedd! fan hyn hefyd. er bod yr eira'n disgyn tu fas, bydd 'na un neu ddwy i'w gweld ar y waliau o bryd i'w gilydd!
Mi glywes i bod nhw'n byw rhyw flwyddyn ac yn gaeafgysgu hefyd.
Post a Comment