


Roedd hi'n 70F/21C ddoe. 19F/-7C ydy hi y bore ma. Mae Oklahoma mor bell o'r moroedd. Dyna pam. Mae'r ffyrdd wedi rhewi dros nos ac mae'r ysgolion wedi cau. Dw i mor falch bod y tywydd ddim cynddrwg ag o'r blaen pan drodd popeth yn rhew.
Mae'r plant wrth eu bodd wrth reswm. A chynigiodd fy merch 15 oed olchi'r dillad a gwneud swper. (Mae hi'n hoff iawn o chwarae mam!) Diwrnod i'r brenin i bawb felly heblaw am 'ngwr oedd rhaid iddo fo fynd i'r gwaith er gwaetha'r rhew.
3 comments:
am olygfa glyd a'r plant yn sefyllian o flaen y tân 'na.
Wnaethon nhw fwynhau eu hunain ddoe. Yn anffodus mae'r rhew wedi dadlaith bellach ac aethon nhw'n ôl i'r ysgol heddiw.
mae'n debyg y cân nhw ragor o ddirnodau fel 'na cyn bydd y gaeaf drosodd. heb sôn am y dolig yn agosáu - digon i edrych ymlaen ato!
Post a Comment