Mae'n debyg bod hyn yn swnio'n hurt i'r dysgwyr sy'n cael mynd i ddosbarthiadau. Ond y broblem fwya i'r rhai sy'n dysgu tu allan i Gymru ydy diffyg cyfleoedd i siarad Cymraeg. Os oes 'na unrhywun sy gan syniad da sut i ymarfer Cymraeg llafar bob dydd, dudwch wrtha i.
Baswn i'n alw fo'n Gêm Gyfweliad. Sut i chwarae:
1. Cymwch arnoch chi bod chi'n gyflwynydd radio (yn fy achos i, Nia Thomas, Post Cynta) a sgwennu cwestiynau dach chi isio gofyn i'r gwestai.)
2. Recordiwch y gyfweliad. Dechreuwch ofyn y cwestiynau. (Cewch chi ddarllen y sgript.)
3. Chi sy'n westai hefyd. Atebwch y cwestiynau heb sgript.
4. Gwrandawch ar y cyfweliad i sylwi ar gamgymeriadau ayyb.
Mi ddylech chi wneud hyn yn slei neu basai'ch teulu'n meddwl bod 'na rywbeth yn bod arnoch chi oni bai bod nhw'n hen gyfarwydd â'ch arferion od!