Ar ôl gweithio yn swddfa fy ngwr (tacluso'r droriau, ac ati) ces i a 'ngwr ginio bach efo Dr. Carhart. Fo ydy pennaeth newydd cysylltiadau rhyngwladol y brifysgol yma. Dw i wedi bod gobeithio cyfarfodd efo fo wedi clywed pa mor selog ydy o yn ei waith. Fy mhwriad oedd annog iddo gychwyn cysylltiadau rhwng y brifysgol yma a'r rhai yng Nghymru.
Roedd gynno fo ddiddordeb mawr yn fy hanes ac yn awyddus i fynd ymlaen! Hwre! Mae o'n dweud bod y rhan fwya o fyfyrwyr Americanaidd yn mynd i Loegr, Ffrainc, yr Eidal neu Sbaen i astudio os ydyn nhw'n mynd o gwbl. Ond mae o eisiau gweld iddyn nhw fynd i wledydd llai ac anghyffredin (fel Cymru!) Wrth gwrs mai ei waith ydy trefnu rhaglenni astudio yn y brifysgol yma ar gyfer myfyrwyr tramor hefyd.
Felly, dw i mewn gobaith. Gawn ni weld!
2 comments:
croeswn ein bysedd, felly!
o ran cysylltiadau Cymry-America, dyma beth 'roedd ambell i un yng nghyffiniau Boston yn ei wneud ddydd Sadwrn:
Dunkin' Like David
Post a Comment