Saturday, January 10, 2009

teyrnged i frenin


Rôn i'n rhyw hanner ofni clywed newyddion felly yn ddiweddar.

"T Llew oedd brenin llenyddiaeth plant yng Nghymru."
Mi faswn i'n ychwanegu "a dysgwyr" ar ôl "Nghymru."  I ddysgwyr sy eisiau tipyn mwy na "nofelau i ddysgwyr," mae'r rhai gan T Llew yn ddelfrydol. Yn un ohonyn nhw, mi wnes i gyfarfod "berfiau cryno amodol" a ffurfiau ffurfiol eraill wedi'u defnyddio i adrodd storiau mor ddifyr.

Dw i wedi bod yn trysori'r llythyr ges i gynno fo. Roedd o'n pryderu am ddyfodol yr iaith Gymraeg. Fy ngobaith ydy byddai fo'n profi'n anghywir ac bydd yr hen iaith yn barhau.

llun: T Llew efo ei hen deipiadur o Japan gan "Brother"

6 comments:

Gwybedyn said...

Ie. Heddwch iddo.

Cafwyd teyrngedau iddo ar y Post Cyntaf y bore 'ma.

Yn bleser ofnadwy i glywed ei lais.

Emma Reese said...

Diolch am y ddolen ac diolch am sgwennu. Rôn i'n meddwl amdano fo cymaint fel y mod i wedi gyrru drwy olau coch p'nawn ma! Yn ffodus doedd fawr o geir.

Linda said...

Emma,mi wnês i feddwl amdanat ti yn syth wedi i mi glywed am farwolaeth T Llew Jones. Mae'n dda gen i dy fod wedi cael cyfle i sgwennu ato . Yn cofio darllen nifer o'i lyfrau pan oeddwn yn yr ysgol.
Heddwch i'w lwch....

Emma Reese said...

Diolch i ti Linda hefyd. Dw i'n edrych ymlaen at wrando ar y CD mwy fyth.

y prysgodyn said...

Yr hen T Llew druan. Bu ei gyfraniad yn amhrisiadwy i blant - a dysgwyr - Cymru, a thrwy hynny wedi gwneud cyfraniad enfawr nu i barhad ein diwylliant.

Dwi'n cofio fo'n dod i siarad efo ni yn ysgol fach Traws ersdalwm, efo boi o'r enw JR Jones. Wel son am chwerthin! Wnai byth anghofio'r stori ddudodd o am fellten yn taro peipiau dŵr rhyw ysgol, ac yntau'n eistedd ar y radiator!

Un o arwyr Cymru, heb unrhya amheuaeth.

Emma Reese said...

Diolch am rannu'r hanesyn, prysgodyn.