Monday, February 23, 2009

mae gen i gariad


Prynes i'r gân hon gan Tony ac Aloma wedi ei chlywed hi ar raglen radio Dewi Llwyd heddiw. Dw i'n hoff iawn o'u caneuon. Mae eu cytgord swynol sy'n fy mhlesio. Fedra i ddim peidio dawnsio pan glywa i'r gân ysgafn a rhythmig ma. 

Gyda llaw peth hwylus ydy iTune. Falch iawn o weld nifer mawr o ganeuon Cymraeg ar gael. (Cân Hogia'r Wyddfa ydy un arall a brynes i'n ddiweddar.)

4 comments:

Linda said...

Rhyfedd o beth ...da ni newydd wrando ar y rhaglen yma ! Yn dod a llwythi o atgofion yn ôl....cyngherddau mewn neuaddau bach y wlad , a melodiau swynol , syml a 'catchy' gan y pâr arbennig:)

Emma Reese said...

Ia, 'catchy' ydy'r gair!

neil wyn said...

Dwi wastad yn meddwl rhyfedd o beth yw hi bod y deuawd o Sîr Fôn wedi rhedeg gwesty yn Blackpool o bob man ers blynyddoedd!

Emma Reese said...

Oes 'na lawer o Gymry yn Blackpool fel yn Lerpwl?